Cystadleuaeth Ci y Flwyddyn Y Senedd

Yn dilyn llwyddiant hoff ddigwyddiad cŵn San Steffan a Holyrood, mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd cystadleuaeth gyntaf Ci y Flwyddyn y Senedd yn cael ei chynnal ym Mharc Britannia, Caerdydd, ym mis Mai 2024.

Mae cystadleuaeth Ci y Flwyddyn Y Senedd, sy’n cael ei threfnu gennym ni a’r Dogs Trust, yn agored i holl Aelodau’r Senedd, ni waeth beth yw eu brîd gwleidyddol, a’i nod yw arddangos cŵn fel aelod pwysig o’r teulu. Bydd y gystadleuaeth hon yn ein galluogi ni a’r Dogs Trust i ymgysylltu â seneddwyr o Gymru sy’n frwd dros gŵn ac i nodi’r rheini sy’n fodlon codi materion a pholisïau cŵn pwysig yn y Senedd.

Gwahoddir y cyfryngau i wylio’r gwleidyddion yn ‘dangos’ eu cŵn ac yn codi ymwybyddiaeth o faterion allweddol sy’n effeithio ar les cŵn. Mae materion a godwyd yn y gorffennol yn ein digwyddiadau eraill yn cynnwys effeithiau tân gwyllt ar gŵn a phwysigrwydd hyfforddi a chymdeithasu cŵn.

Dathlu perthynas unigryw

Mae’r gystadleuaeth yn dathlu’r berthynas unigryw rhwng cŵn a’u perchnogion, a’i nod yw hyrwyddo perchnogaeth cŵn cyfrifol. Mae cŵn pob seneddwr yn gallu cystadlu.

Neges gan Owen Sharp, Prif Weithredwr Dogs Trust

Fel yr esbonia Owen Sharp, Prif Weithredwr Dogs Trust: “Rydym ni’n falch iawn o gyflwyno’r cyffro cïol i Gymru a chynnal cystadleuaeth gyntaf Ci y Flwyddyn y Senedd. Nid digwyddiad arferol i gŵn fydd hwn; bydd y beirniaid yn chwilio’n bennaf am arwyddion o deyrngarwch, ymroddiad ac, yn bwysicaf oll, cyfeillgarwch. Am un diwrnod, byddwn yn rhoi safbwyntiau gwleidyddol o’r neilltu ac yn mwynhau dathlu’r berthynas arbennig rhwng pobl a chŵn, gan dynnu sylw at bwysigrwydd bod yn gyfrifol am gŵn ac eirioli dros les cŵn.”

Neges gan Mark Beazley, Prif Weithredwr The Kennel Club

Dywedodd Mark Beazley, Prif Weithredwr The Kennel Club: “Rydym ni’n falch o gynnal cystadleuaeth gyntaf Ci y Flwyddyn Y Senedd gyda’r Dogs Trust. Mae’r cystadlaethau’n ddigwyddiadau hwyliog sy’n gyfle i ddathlu’r berthynas unigryw rhwng pobl a’u cŵn, ond maent hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o’r camau y mae angen eu cymryd i sicrhau bod ein cŵn yn byw bywydau hapus ac iach.”

Rhagor o wybodaeth am pam rydym yn cynnal y digwyddiad hwn

Gwahoddir y cyfryngau i wylio’r gwleidyddion yn ‘dangos’ eu cŵn ac yn codi ymwybyddiaeth o faterion allweddol sy’n effeithio ar les cŵn. Mae materion a godwyd yn y gorffennol yn ein digwyddiadau eraill yn cynnwys effeithiau tân gwyllt ar gŵn a phwysigrwydd hyfforddi a chymdeithasu cŵn.

Mewn ymgais i ennill y bleidlais ‘gi-hoeddus’, bydd ASau yn galw ar eu cefnogwyr i bleidleisio dros eu ffrindiau blewog. Ar y cyd â’r bleidlais gyhoeddus, mae’r beirniaid hefyd yn asesu’r cŵn yn seiliedig ar eu gweithredoedd arwrol a’u personoliaethau er mwyn coroni’r prif enillydd.

 

Pleidleisiwch dros Ci y Flwyddyn y Senedd 2024

Mae'r cyfnod pleidleisio ar gyfer Ci y Flwyddyn Y Senedd wedi agor, pleidleisiwch am eich hoff enwebai ar y dudalen Saesneg, os gwelwch yn dda.

Rhagor o wybodaeth am bob ci sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol:

Jane Dodds AS a Wanda

James Evans AS a Bonnie

Darganfyddwch fwy am Jane Dodds AS a Wanda

Enw’r AS: Jane Dodds   

Etholaeth: Canolbarth a Gorllewin Cymru

Enw’r ci: Wanda

Brîd: Milgi

Rhyw: Benyw

Oedran: 5

Lliw: Du a gwyn

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich ci?

Mae’n ffyddlon ac yn addfwyn

Sut mae eich ci yn gwella eich bywyd o ddydd i ddydd?

Mae’n gwneud i mi chwerthin (pan fydd hi wedi bwyta clustog neu ychydig o gacennau) ac mae’n gwmni gwych.

Yn eich barn chi, pa faterion sy’n ymwneud â lles cŵn y mae angen mynd i’r afael â nhw?

Mae angen ci ar bob un ohonom yn ein bywyd, felly mae angen cymorth ar bob teulu i dalu am fwyd a thriniaeth.

Yn eich barn chi, beth sy’n gwneud perchennog ci yn un cyfrifol?

Cariad, amynedd, amser ac ymdeimlad o hwyl

Darganfyddwch fwy am James Evans AS a Bonnie

Enw’r AS: James Evans 

Etholaeth: Brycheiniog a Sir Faesyfed

Enw’r ci: Bonnie

Brîd: Sbaengi Hela 

Rhyw: Gast

Oedran: 9 Mis

Lliw: Siocled

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich ci?

Fy hoff bethau am Bonnie? Wel, gadewch i mi weld...  mae’n anodd dewis dim ond rhai!  Mae ei hegni chwareus yn heintus, rydym ni wrth ein bodd yn mynd am dro hir iawn ac yn mynd gyda’n gilydd i weld beth welwn ni.  Mae hi hefyd yn gariadus ac yn fwythus iawn, bob amser yn hapus i fynd ar y soffa i gael cwtsh.  A’r llygaid mawr, brown?  Mae ganddi bersonoliaeth wirion iawn hefyd.  Mae ganddi ffordd o wneud i mi chwerthin bob dydd, ac mae hynny’n rhywbeth rydw i ac Emma a staff fy etholaeth yn ei drysori go iawn.

Sut mae eich ci yn gwella eich bywyd o ddydd i ddydd?

Mae Bonnie yn llonni fy niwrnod mewn cymaint o ffyrdd!  Mae ei chael hi wrth fy ochr, boed mewn cyfarfodydd gwaith neu o gwmpas y swyddfa, yn dod â llawenydd a hapusrwydd go iawn i Emma a minnau. Mae hi wrth ei bodd yn cwrdd â phobl newydd, ac mae ei hegni chwareus yn rhoi hwb i hwyliau i bawb y mae hi’n dod ar eu traws.  Rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun sut mae hi’n helpu fy staff i ymlacio – mae sesiwn o fwythau gyda Bonnie yn gwneud gwyrthiau i les meddyliol rhywun!  Mae hi fel masgot bach o hapusrwydd yn y swyddfa, ac allwn i ddim dychmygu treulio fy nyddiau heb ei hegni cadarnhaol.

Ar lefel bersonol, mae Bonnie wedi bod yn gymorth anhygoel i fy iechyd meddwl.  Mae ei phresenoldeb yn gwneud i mi deimlo'n dawel ac yn bwyllog pan fydd pethau’n mynd yn ormod.  Mae ei chariad diamod a’i brwdfrydedd dros fywyd yn rhywbeth cadarnhaol a chyson, ac mae hi bob amser yn gwybod sut i wneud i mi wenu, hyd yn oed ar ddiwrnodau anodd.  Mae Bonnie yn rhodd go iawn yn ein bywydau.

Yn eich barn chi, pa faterion sy’n ymwneud â lles cŵn y mae angen mynd i’r afael â nhw?

Mae lles cŵn yn flaenoriaeth yma yng Nghymru a’r DU, ond mae lle i wella bob amser. Un pryder mawr yw arferion bridio anghyfrifol, yn enwedig mewn ffermydd cŵn bach. Gall y rhain arwain at gŵn gyda phroblemau iechyd a phroblemau ymddygiad.  Yn ddiweddar, fe wnaeth Cymru wahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd parti drwy “Gyfraith Lucy,” sy’n gam mawr ymlaen.

Her arall yw gorboblogi ymysg cŵn. Mae torllwythi damweiniol a phrynu byrbwyll yn golygu bod gormod o gŵn mewn llochesi yn y diwedd.  Diolch byth, mae ymdrechion wedi bod i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol dros anifeiliaid anwes, ysbaddu/niwtro, a mabwysiadu.

Mae’n bwysig sicrhau hefyd bod gan gyfreithiau lles anifeiliaid y pŵer i’w gorfodi.  Weithiau, nid oes gan awdurdodau lleol yr adnoddau i’w gorfodi’n effeithiol. Yma yng Nghymru, maen nhw’n edrych ar ffyrdd o roi mwy o bŵer i swyddogion lles anifeiliaid.

Mae addysgu’r cyhoedd yn rhan allweddol arall.  Os nad yw pobl yn deall anghenion ci a sut i’w hyfforddi, mae cŵn yn gallu cael eu hesgeuluso a’u gadael. Yn ffodus, mae sefydliadau fel Dogs Trust, Kennel Club a RSPCA yn cynnig adnoddau a rhaglenni hyfforddi i berchnogion cŵn.

Nawr, mae dadl hefyd ynghylch bridiau cŵn sydd wedi’u gwahardd. Y syniad yw atal niwed drwy gyfyngu ar berchnogaeth bridiau sy’n gysylltiedig yn hanesyddol ag ymladd cŵn. Yma yng Nghymru a’r DU, mae bridiau fel Daeargi Pydew a Bwli Americanaidd Enfawr (XL) yn dod o dan y gwaharddiad hwn. Er ei fod yn fater cymhleth, dylid canolbwyntio ar berchnogaeth gyfrifol a hyfforddiant ar gyfer pob ci, beth bynnag fo’u brîd.

Y tu hwnt i hynny, mae materion un bodoli fel lles cŵn wrth eu cludo, yr angen am reoliadau llymach ar gyfer llochesi anifeiliaid yng Nghymru, a phroblem gynyddol dwyn cŵn, sy’n dorcalonnus i berchnogion ac yn bwydo’r farchnad ddu sy’n gwerthu anifeiliaid anwes.  Mae hyd yn oed poblogrwydd rhai bridiau wyneb fflat yn gallu arwain at ganlyniadau anfwriadol, gyda rhai cŵn yn dioddef oherwydd bod eu llwybrau anadlu’n fyrrach. 

Mae rasio milgwn yn faes arall lle mae gwelliannau lles yn parhau, ac mae angen eu cryfhau.  Mae Cymru a’r DU wedi gweithredu rheoliadau fel Deddf Rasio Milgwn 2019, sy’n cryfhau’r broses o oruchwylio a’r gallu i olrhain milgwn rasio.  Ond, mae pryderon o hyd ynghylch anafiadau, bywyd y milgwn ar ôl i’w dyddiau rasio ddod i ben, traciau didrwydded, a pha mor addas yn gyffredinol yw’r gamp ar gyfer y cŵn hyn.  Mae angen rhagor o ymdrechion i sicrhau lles milgwn drwy gydol eu bywydau i sicrhau bod gan bob ci fywyd da.

Felly, er bod y DU a Chymru ar y trywydd iawn o ran lles cŵn, mae’n sicr yn broses barhaus y mae angen ei hadolygu’n gyson i fynd i’r afael ag unrhyw dueddiadau a ddaw i’r amlwg.

Yn eich barn chi, beth sy’n gwneud perchennog ci yn un cyfrifol?

Yn fy marn i, perchennog ci cyfrifol yw rhywun sy’n rhoi blaenoriaeth i les eu cŵn uwchlaw popeth arall. Mae’n ymrwymiad sy’n para am oes, ac yn gofyn am fuddsoddiad ariannol ac emosiynol. Mae perchnogion cyfrifol yn deall bod eu ci yn rhan o’r teulu, ac maen nhw’n barod i ofalu amdanyn nhw drwy’r amser.

Mae mwy i gadw ci yn iach ac yn hapus na rhoi bwyd a tho uwch ei ben yn unig. Mae archwiliadau rheolaidd gan filfeddygon yn hanfodol, gan sicrhau bod eich ci yn cael y gofal ataliol sydd ei angen arno. Mae perchnogion cyfrifol yn rhoi blaenoriaeth hefyd i ddeiet iach a digon o ymarfer corff, sy’n hanfodol ar gyfer lles corfforol a meddyliol.

Mae hyfforddi a chymdeithasu yn elfennau allweddol i siapio ci sy’n ymddwyn yn dda. Mae perchnogion cyfrifol yn buddsoddi amser ac amynedd wrth ddysgu gorchmynion sylfaenol ac ymddygiad priodol i’w cŵn. Mae hyn nid yn unig yn helpu’r ci i ddeall disgwyliadau ond hefyd yn golygu ei bod yn bleser bod yn eu cwmni. Mae cymdeithasu â chŵn a phobl eraill yr un mor bwysig, gan sicrhau bod eich ci yn teimlo’n gyfforddus ac yn hyderus mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Mae creu amgylchedd diogel yn hollbwysig i unrhyw berchennog ci cyfrifol. Mae hyn yn golygu gwneud eich cartref yn lle diogel i gŵn a chadw eich ci ar dennyn wrth fynd am dro. Mae cael tagiau adnabod priodol yn hanfodol, gan sicrhau bod eich ci bach yn gallu dod yn ôl atoch chi os bydd yn mynd ar goll. Yma yng Nghymru, fel rhan o fod yn berchennog cyfrifol, mae’r gyfraith yn mynnu bod microsglodyn yn cael ei osod yn eich ci. Mae microsglodion yn ddull parhaol a dibynadwy o adnabod, a bydd mwy o siawns y bydd ci sy’n mynd ar goll yn mynd yn ôl at ei deulu. Mae dilyn y rheolau ynghylch coleri cŵn yn bwysig hefyd.  Gwnewch yn siŵr bod eich ci yn gwisgo coler sy’n ffitio’n dda gyda’ch gwybodaeth gyswllt wedi’i harddangos yn glir ar y tag adnabod. 

Yn olaf, mae perchnogaeth gyfrifol dros gŵn yn golygu bod yn ddinesydd parchus. Mae perchnogion cyfrifol yn glanhau ar ôl eu cŵn wrth fynd am dro, gan gadw eu cymunedau’n lân ac yn ddymunol i bawb.  Mae deall a pharchu cyfreithiau lleol ynghylch cadw cŵn ar dennyn yn bwysig, yn enwedig o ran da byw. Mae cadw eich ci ar dennyn mewn mannau lle mae anifeiliaid fferm, yn gwarchod eich ci a'r da byw. Drwy fod yn ymwybodol o’r rheoliadau hyn a dangos cwrteisi i eraill, mae perchnogion cŵn cyfrifol yn sicrhau profiadau cadarnhaol i bawb sy’n rhannu ein cymunedau.

Yn fy marn i, wrth gwrs, wrth wraidd popeth, caru eich ci yn ddiamod yw’r rhan bwysicaf o fod yn berchennog ci. Y cwlwm a’r gwmnïaeth sy’n gwneud y profiad o gael ci yn un sy’n rhoi cymaint o foddhad.

Pam dylai eich ci gael ei goroni’n bencampwr Ci y Flwyddyn Y Senedd?

Rwy’n credu y dylid coroni Bonnie yn gi’r flwyddyn yn y Senedd yn 2024 oherwydd bod Bonnie yn fwy na dim ond anifail anwes. Mae hi’n un o’r teulu, yn dod â llawenydd a chysur, ac mae’n gyfaill triw. Mae ei phresenoldeb yn llonni fy niwrnod i a phawb mae hi’n cwrdd â nhw. Mae hi’n creu awyrgylch cadarnhaol lle bynnag rydym yn mynd.  Boed hynny’n ymuno â mi mewn cyfarfodydd gwaith gydag etholwyr, mewn ymgyrchoedd neu ar y soffa, mae Bonnie yn dod â gwên i wyneb pawb.  Mae hi’n enghraifft wych o’r effaith anhygoel y gall cŵn ei chael ar ein lles meddyliol a’n hapusrwydd cyffredinol.  Rydw i wir yn credu y byddai Bonnie yn Gi’r Flwyddyn haeddiannol yn 2024.

Jack Sargeant AS a Coco

Janet Finch-Saunders AS a Alfie

Darganfyddwch fwy am Jack Sargeant AS a Coco

Enw’r AS: Jack Sargeant

Etholaeth: Alun a Glannau Dyfrdwy

Enw’r ci: Coco

Brîd: Sbaengi Cavalier King Charles

Rhyw: Benyw   

Oedran: 3 blwydd a 3 mis

Lliw: Du a melyn (gyda barf wen fach iawn!)

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich ci?

Mae hi’n annwyl ac yn gariadus, y ci anwes perffaith. Mae hi wrth ei bodd yn cael sylw ac mae’n dweud helo wrth unrhyw un sy’n mynd heibio pan fydd hi’n mynd am dro. Mae hi hefyd yn cysgu ar y gobennydd uwch fy mhen bob nos, ac mae yna hyd yn oed rywbeth hoffus am ei chwyrnu uchel.

Ond, fy hoff beth i amdani yw ei chynffon sy’n ysgwyd yn hapus drwy’r amser, a’r ffordd mae’n siglo ei phen-ôl pan fydd hi’n fy ngweld.

Sut mae eich ci yn gwella eich bywyd o ddydd i ddydd?

Mae natur serchog Coco bob amser yn dod â gwên a chysur ar ddiwrnod gwael, ac mae mynd â hi am dro (a gwylio ei chynffon yn ysgwyd a’i phen-ôl yn siglo) bob amser yn codi eich hwyliau.

Yn eich barn chi, pa faterion sy’n ymwneud â lles cŵn y mae angen mynd i’r afael â nhw?

Mae bod yn berchnogion cŵn cyfrifol yn rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon. Fe wnaeth dau gi a oedd wedi dianc o’u gardd ymosod ar Coco a finnau, a doedd y perchennog ddim yn unman i’w weld. Yn ffodus, daeth chwech o bobl a oedd gerllaw i’n helpu ar ôl i mi weiddi am help wrth i mi orwedd ar ei phen. Fe wnaeth un hyd yn oed frifo ei law ei hun yn trio tynnu safn ceg un o’r cŵn oddi ar wddf Coco. Cafodd ddau glwyf brath, un i du blaen ei gwddf ac un arall ar ei gwddf ynghyd â sawl brathiad arall, ond roedd yn ffodus ei bod wedi gallu gwella’n eithaf cyflym. Ond, mae’r profiad wedi achosi trawma i’r ddau ohonom, ac mae hi’n wyliadwrus iawn o gŵn eraill erbyn hyn. Dydy hi ddim yn ysgwyd ei chynffon pan fyddwn ni’n gweld cŵn eraill o’n blaenau wrth fynd am dro.

https://www.itv.com/news/wales/2023-10-04/politician-saves-his-dog-from-a-vicious-staffordshire-bull-terrier-dog-attack

Yn dilyn yr ymosodiad, rwyf wedi bod yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw bod yn berchennog ci cyfrifol. Yn y Senedd, rwyf wedi galw am ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd i annog pobl i wneud y peth cyfrifol a meddwl yn ofalus a ydyn nhw mewn sefyllfa i hyfforddi a gofalu am gi yn iawn cyn dod ag ef i’w cartref.

Hoffwn weld unrhyw ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i’n hymrwymo i hyb canolog o wybodaeth, sydd ar gael ar-lein, lle gall darpar berchnogion a pherchnogion cŵn presennol weld y cyngor arbenigol diweddaraf. Rwy’n credu ei bod yn hanfodol bod pobl yn gwybod i ble gallan nhw droi os byddan nhw’n gweld eu ci yn ymddwyn yn ymosodol, a bod modd rhoi’r cymorth ar waith cyn, yn anffodus, ei bod hi’n rhy hwyr. https://www.leaderlive.co.uk/news/23833852.jack-sargeants-plea-responsible-owners-dog-attack/

Yn eich barn chi, beth sy’n gwneud perchennog ci yn un cyfrifol?

Rhywun sy’n gofalu am ei gi ond sydd hefyd yn parchu cŵn eraill, a phobl, a’u hanghenion. Efallai na fydd yr hyn sy’n gweithio i un perchennog a’i gi, fel cerdded oddi ar dennyn, yn addas i un arall, ac rwy’n teimlo y dylid cadw pob ci ar ei dennyn pan fydd allan am dro.

Rydym yn gwybod ei bod yn anodd rhagweld sut fydd ci yn ymddwyn. Cyfrifoldeb cyfreithiol perchnogion yw sicrhau bod eu ci dan reolaeth bob amser. Yn anffodus, mae llawer gormod o berchnogion yn hunanfodlon. Mae llawer gormod o bobl nad ydynt yn cymryd y camau na’r rhagofalon angenrheidiol i sicrhau nad yw eu ci yn berygl i eraill. Mae bod yn berchennog ci cyfrifol yn golygu cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau nad yw eich ci byth yn risg iddo’i hun nac i unrhyw un arall.

Pam dylai eich ci gael ei goroni’n bencampwr Ci y Flwyddyn Y Senedd?

Mae Coco wedi profi trawma yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond mae hi wedi dod at ei hun ac mae’n dal i fod yn annwyl gyda phawb mae hi’n ei weld. Os caiff ei choroni’n enillydd, mae hi’n addo ysgwyd ei chynffon a siglo ei phen-ôl i ddathlu!

Darganfyddwch fwy am Janet Finch-Saunders AS a Alfie

Enw’r AS: Janet Finch-Saunders

Etholaeth: Aberconwy

Enw’r ci: Alfie Finch-Saunders

Brîd: Ci Defaid Cymreig Coch a Gwyn

Rhyw: Gwryw

Oedran: 8

Lliw: Gwryw

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich ci?                       

Alfie yn tapio ar y drws i roi gwybod i ni ei fod eisiau dod i mewn o’r ardd

Mae Alfie yn helpu yn y swyddfa etholaethol, ac yn aml mae’n eistedd wrth fy ymyl i neu wrth ymyl fy staff mewn cadair ddesg

Mae Alfie yn ffrindiau gorau gydag Archie, fy ŵyr hwyliog sy’n 2 oed. Maen nhw’n chwarae gyda’i gilydd. Hoff gêm fy ŵyr yw taflu eitemau i’r ci gael eu nôl!

Mae Alfie yn forwr hefyd. Mae’n mynd ar badlfyrddau’n rheolaidd gyda fy merch, ac mae o wrth ei fodd yn nofio yn y môr.

Mae Alfie yn hoff o gymryd y lle i gyd yn y gwely. Mae’n stwffio ei hun rhyngof i a’r gŵr, ac mae’n ymestyn ei gorff gan wthio’r ddau ohonom ni tuag at ymyl y gwely.

Sut mae eich ci yn gwella eich bywyd o ddydd i ddydd?

Mae’n dod â llawenydd mawr i’m teulu a’m staff.

Yn eich barn chi, pa faterion sy’n ymwneud â lles cŵn y mae angen mynd i’r afael â nhw?                                                                                                           

Gwerthu cŵn ar y cyfryngau cymdeithasol

Mewnforio cŵn bach

Addasiadau esthetig a chosmetig i lawer o fridiau, yn enwedig y cŵn sydd â thrwyn fflat

Yn eich barn chi, beth sy’n gwneud perchennog ci yn un cyfrifol?

Sylweddoli bod cŵn yn debyg i bobl, ac y dylen nhw gael eu trin felly

Pam dylai eich ci gael ei goroni’n bencampwr Ci y Flwyddyn Y Senedd?

Oherwydd bod Alfie yn gi dawnus iawn: ci swyddfa, morwr, chwaraewr gemau a ffrind.

Darren Millar AS a Blue

Darganfyddwch fwy am Darren Millar AS a Blue

Enw’r AS: Darren Millar

Etholaeth: Gorllewin Clwyd

Enw’r ci: Blue

Brîd: Milgi Bach

Rhyw: Gwryw

Oedran: 14

Lliw: Du gyda brest wen

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich ci?

Mae Blue yn gariadus iawn, yn annwyl ac yn ddireidus!

Mae’n gi achub, ac fe ddaeth i fyw atom pan oedd yn 9 mis oed.

Pan oedd yn iau, ef oedd yr anifail cyflymaf yn y parciau lleol ac roedd wrth ei fodd yn gwibio ar hyd y traeth tywodlyd ym Mae Cinmel.

Yn anffodus, bu’n rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ei ben-glin yn dilyn problem ligament croesffurf yn ystod pandemig Covid, ac fe gafodd strôc ym mis Chwefror y llynedd. Mae wedi gwella’n dda o’r ddau beth, ond erbyn hyn mae’n arafach o lawer nag yr oedd. Mae’r un mor gariadus ag erioed ond mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn cysgu, heblaw am fynd am dro bach byr, neu’n sniffian o gwmpas yr ardd.

Sut mae eich ci yn gwella eich bywyd o ddydd i ddydd?

Mae Blue wir yn donig ar ddiwedd diwrnod hir a phrysur. Mae bob amser yn cyffroi pan fydd unrhyw aelod o’r teulu’n dod adref, yn ysgwyd ei gynffon i’n croesawu ni a’n harwain i’r man lle rydym ni’n cadw ei ddanteithion a’i fisged!

Yn eich barn chi, pa faterion sy’n ymwneud â lles cŵn y mae angen mynd i’r afael â nhw?

Bridio anghyfrifol.

Smyglo cŵn bach.

Mae angen gwahardd rasio milgwn.

Yn eich barn chi, beth sy’n gwneud perchennog ci yn un cyfrifol?      

Gwneud amser i’ch ci.

Gallu rhoi amgylchedd cartref i’ch ci lle gall ffynnu.

Cael digon o gyfleoedd i ymarfer corff.

Gallu fforddio costau bod yn berchen ar anifail.

Ystyried aelodau eraill o’r teulu (ac anifeiliaid anwes).

Ystyried trefniadau ar gyfer y ci os nad ydych yn gallu gofalu amdano mwyach.

Pam dylai eich ci gael ei goroni’n bencampwr Ci y Flwyddyn Y Senedd?

Oherwydd mae’n ei haeddu!

Cafodd Blue ddechrau anodd i’w fywyd ond mae wedi rhoi cymaint o gariad i ni dros y blynyddoedd. Byddem wrth ein bodd yn ei weld yn cael ei gydnabod fel hyn ar ran cŵn achub ym mhobman!

Y digwyddiad nesaf

Cofiwch ein bod hefyd yn rhedeg cystadlaethau Ci y Flwyddyn San Steffan a Holyrood!